BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adolygiad o Restr o Alwedigaethau lle ceir Prinder: cais am dystiolaeth 2023

Mae'r Pwyllgor Cynghori ar Fudo (MAC) yn cynghori Llywodraeth y DU (UKG) ar faterion mudo.

Mae'r MAC yn darparu cyngor annibynnol sy'n seiliedig ar dystiolaeth i lywodraethau y DU a datganoledig.

Mae'r Rhestr o Alwedigaethau lle ceir Prinder (SOL) yn rhestr o swyddi gweithwyr medrus y mae Llywodraeth y DU yn ystyried eu bod yn brin. Ar gyfer swyddi ar y SOL, mae'r rheolau mewnfudo ar gyfer fisas gwaith yn cael eu llacio, gan ei gwneud yn haws i weithwyr tramor sydd â'r sgiliau perthnasol ddod i'r DU.

Mae'r MAC eisiau gwybod barn sefydliadau am y swyddi sy'n cael eu llenwi gan weithwyr mudol. Mae angen i sefydliadau ddarparu tystiolaeth ar gyfer swyddi maen nhw'n credu y dylid eu hychwanegu at yr SOL.

Bydd y MAC ond yn ystyried galwedigaethau i'w cynnwys ar yr SOL lle darperir tystiolaeth. Dylai'r holl dystiolaeth gael ei chefnogi gan ymchwil, ystadegau neu gyfeirio at ffynonellau allanol. (Dylid dyfynnu a gwirio pob ffynhonnell).

Ni fydd unrhyw swyddi'n aros ar yr SOL am gyfnod amhenodol.

Os oes swyddi penodol rydych chi eu heisiau ar y SOL:

  • rhaid i chi gyflwyno tystiolaeth ar gyfer yr angen i'w cynnwys, a
  • rhaid iddi fodloni dangosyddion MAC o amodau'r farchnad lafur/ priodoldeb ar gyfer defnyddio gweithwyr mudol.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y ddogfen Galwad am Dystiolaeth yn y ddogfen ganllaw isod:

Canllawiau ar gyfer yr Alwad am Dystiolaeth ar LLYW.CYMRU.

Y dyddiad cau ar gyfer yr alwad am dystiolaeth yw 26 Mai 2023.

Rydym yn argymell bod yr holl sefydliadau sy'n dibynnu ar weithwyr mudol ar hyn o bryd, yn darparu tystiolaeth drwy lenwi'r holiadur galwad am dystiolaeth.

Holiadur galwad am dystiolaeth MAC ar GOV.UK
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.