BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adolygu eich cynllun llifogydd

River Teifi, Cardiff

Os ydych chi wedi cwblhau cynllun llifogydd ar gyfer eich cartref, ysgol, busnes neu gymuned mae hynny’n gam cadarnhaol wrth baratoi ar gyfer llifogydd.

Mae’n bwysig adolygu eich cynllun yn rheolaidd i wirio a oes unrhyw beth wedi newid ac i ddiweddaru eich cynllun yn unol â hynny. Mae hefyd yn helpu i'ch atgoffa o'r camau sydd angen i chi eu cymryd wrth roi eich cynllun ar waith.

Gall ymgyfarwyddo â’r camau hyn eich helpu os bydd llifogydd yn effeithio ar eich gallu i wneud penderfyniadau a/neu os amser bydd gennych amser cyfyngedig yn unig i weithredu.

Er enghraifft:

  • Gwiriwch fod y rhifau cysylltu yn gyfredol
  • Gwiriwch fod y rhifau ydych wedi'u cofrestru ar gyfer y Gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd yn gyfredol
  • Sicrhewch fod unrhyw offer amddiffyn rhag llifogydd yn cael ei gynnal a'i gadw ac yn barod i'w ddefnyddio
  • Ar gyfer busnesau, gwiriwch fod staff newydd yn gyfarwydd â'r gweithdrefnau
  • Sicrhau eich bod yn dosbarthu unrhyw ddiweddariadau i bawb sy'n gysylltiedig

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddoleni ganlynol:

Gall yr adnoddau canlynol eich helpu os ydy’r llifogydd wedi effeithio ar eich busnes chi:

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.