BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adrodd am wybodaeth Talu Wrth Ennill mewn amser real pan gaiff taliadau eu gwneud yn gynnar adeg y Nadolig

young creative people work in modern office wearing Santa hats.

Mae rhai cyflogwyr yn talu eu cyflogeion yn gynharach na’r arfer dros gyfnod y Nadolig. Gall hyn fod am nifer o resymau; er enghraifft, yn ystod cyfnod y Nadolig, gallai’r busnes gau, sy’n golygu bod angen talu gweithwyr yn gynharach na’r arfer.

Os ydych chi yn talu’n gynnar dros gyfnod y Nadolig, rhowch wybod beth yw eich diwrnod cyflog arferol neu gontractiol fel y dyddiad talu ar eich Cyflwyniad Taliad Llawn (FPS), a sicrhau bod y FPS yn cael ei gyflwyno ar y dyddiad hwn, neu’n gynharach.

Er enghraifft, os ydych chi’n talu ddydd Gwener, 15 Rhagfyr 2023 ond y dyddiad talu arferol neu gontractiol yw dydd Gwener, 29 Rhagfyr 2023, bydd angen i chi adrodd am y dyddiad talu ar y FPS fel 29 Rhagfyr 2023 a sicrhau bod y cyflwyniad yn cael ei anfon ar 29 Rhagfyr 2023, neu’n gynharach.

Bydd hyn yn helpu diogelu unrhyw un o’ch cyflogeion sy’n gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol. Gallai adrodd am y diwrnod cyflog fel y dyddiad y gwneir taliad effeithio ar hawliau i Gredyd Cynhwysol nawr ac yn y dyfodol.

Nid yw’r brif rwymedigaeth adrodd Talu Wrth Ennill ar gyfer cyflogwyr yn cael ei heffeithio gan yr eithriad hwn, a rhaid i chi adrodd am daliadau o hyd ar y dyddiad y telir y cyflogai, neu’n gynharach.

I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Running payroll: Overview - GOV.UK 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.