BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Adrodd ar gyflogau ethnigrwydd: canllawiau i gyflogwyr

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau i gyflogwyr ar sut i fesur, adrodd ar a mynd i'r afael ag unrhyw wahaniaethau cyflog ethnigrwydd o fewn eu gweithlu.

Mae adrodd ar gyflogau ethnigrwydd yn un o'r offer y gall cyflogwyr eu defnyddio i adeiladu tryloywder ac ymddiriedaeth ymhlith eu gweithwyr. 

Mae'r canllawiau'n cynnwys cyngor ar:

  • gasglu data tâl ethnigrwydd ar gyfer gweithwyr
  • sut i ystyried materion data fel cyfrinachedd, cydgasglu grwpiau ethnig a lleoliad gweithwyr
  • y cyfrifiadau a argymhellir a'r cyfarwyddiadau cam wrth gam ar sut i'w gwneud
  • adrodd ar y canfyddiadau
  • dadansoddiad pellach y gallai fod ei angen i ddeall achosion sylfaenol unrhyw wahaniaethau
  • pwysigrwydd arddel ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at gamau gweithredu

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Ethnicity pay reporting: guidance for employers - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.