Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach (FSB) wedi cyhoeddi adroddiad newydd sy'n datgelu pecyn o argymhellion i helpu i drawsnewid bywyd ar y stryd fawr i'r miliynau o gwmnïau bach sydd wedi’u lleoli arnynt.
Mae cefnogi mentrau dros dro a defnydd dros dro ar gyfer busnesau newydd, creu rhaglenni teyrngarwch ar ffonau symudol, ac arddangos y stryd fawr leol mewn ymgyrchoedd twristiaeth mawr ymhlith y mesurau newydd a nodir yn yr adroddiad i adfywio canol pentrefi, trefi a dinasoedd y DU.
Mae adroddiad ‘The Future of the High Street’ yn creu darlun o fywyd cwmnïau bach yn y stryd fawr ac o’i hamgylch, ac mae'n nodi cynllun i helpu i'w trawsnewid yn lleoedd sy'n diwallu anghenion y dyfodol ac yn cefnogi'r genhedlaeth nesaf o entrepreneuriaid.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: FSB | New report sets out future vision to support and transform our high streets