Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ganllawiau penodol ar bryd y dylech wneud adroddiad RIDDOR (dan y Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau a Digwyddiadau Peryglus) ar COVID-19.
Dim ond yn yr amgylchiadau canlynol y dylech chi wneud adroddiad dan RIDDOR yn ymwneud â’r coronafeirws:
- pan fo damwain anfwriadol yn y gwaith wedi rhoi rhywun mewn perygl o ddod i gysylltiad posibl neu wirioneddol â’r coronafeirws, mae’n rhaid cofnodi hyn fel digwyddiad peryglus
- pan fo gweithiwr wedi cael diagnosis COVID-19 a bod tystiolaeth resymol ei fod wedi dod i gysylltiad â’r feirws yn y gwaith, mae’n rhaid nodi hyn fel achos o haint
- pan fo gweithiwr yn marw yn sgil dod i gysylltiad galwedigaethol â’r coronafeirws
Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am ragor o fanylion.