BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Aelodau Seneddol yn lansio ymchwiliad i gyfleoedd allforio i fusnesau'r DU

Mae'r Pwyllgor Masnach Ryngwladol wedi lansio ymchwiliad i'r cyfleoedd allforio sydd ar gael i fusnesau yn y DU:

Mae Pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau Seneddol yn galw am gyflwyniadau o dystiolaeth ysgrifenedig sy'n archwilio'r sefyllfa bresennol i allforwyr, y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth y DU, a pha mor hawdd y gall allforwyr gael mynediad ato. 

Yn ystod ei ymchwiliad, bydd y Pwyllgor yn ymchwilio i'r rhwystrau allweddol sy'n atal busnesau rhag allforio, sut gellir mynd i'r afael â'r rhain, a ph’un a all Llywodraeth y DU ddarparu cefnogaeth ychwanegol.

Anogir arbenigwyr, rhanddeiliaid a phobl sydd â diddordeb i gyflwyno tystiolaeth i'r ymchwiliad. 

Mae'r Pwyllgor yn gofyn i dystiolaeth ysgrifenedig gychwynnol gael ei chyflwyno drwy borth ar y we y Pwyllgor erbyn 12pm, ddydd Gwener, 24 Mawrth 2023.

Argymhellir bod yr holl gyflwynwyr yn ymgyfarwyddo â’r Canllaw ar roi tystiolaeth i Bwyllgor Dethol Tŷ’r Cyffredin sy'n amlinellu manylion cyfrif geiriau, fformat, maint dogfennau, a chyfyngiadau ar gynnwys.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol MPs launch investigation into export opportunities for UK businesses - Committees - UK Parliament


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.