BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gwaith: canllawiau technegol

Business man being harassed at work

Mae'r gyfraith ar atal aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn newid.

Ar 26 Hydref 2024 bydd y Ddeddf Diogelu Gweithwyr (Diwygio Deddf Cydraddoldeb 2010) 2023 yn dod i rym. Mae’r Ddeddf yn cyflwyno rhwymedigaeth gyfreithiol gadarnhaol newydd ar gyflogwyr i gymryd camau rhesymol i amddiffyn eu gweithwyr rhag aflonyddu rhywiol. Os bydd cyflogwr yn torri'r ddyletswydd ataliol, bydd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) y pŵer i gymryd camau gorfodi yn erbyn y cyflogwr. Bydd gan dribiwnlysoedd cyflogaeth hefyd y pŵer i gynyddu iawndal am aflonyddu rhywiol hyd at 25%.

Ym mis Ionawr 2020 fe gyhoeddodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol canllawiau technegol ar aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gweithle i helpu cyflogwyr, gweithwyr a’u cynrychiolwyr i ddeall sut mae cyfrifoldebau cyflogwyr o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn gwahardd aflonyddu yn y gwaith. Mae’r canllawiau hefyd yn rhoi cyngor ar y mathau o gamau y gall cyflogwyr eu cymryd i atal ac ymateb i aflonyddu yn y gweithle.

Maent bellach wedi diweddaru’r canllaw hwn i gynnwys gwybodaeth am y ddyletswydd ataliol newydd fel bod cyflogwyr yn deall eu rhwymedigaethau newydd o dan gyfraith cydraddoldeb. Maent hefyd wedi gwneud mân newidiadau i weddill y canllawiau, er enghraifft eu diweddaru fel eu bod yn adlewyrchu cyfraith achosion diweddar berthnasol a Deddf Cydraddoldeb 2010 (Rheoliadau Diwygio) 2023 diweddar.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Aflonyddu rhywiol ac aflonyddu yn y gwaith: canllawiau technegol | EHRC (equalityhumanrights.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.