BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Agwedd meddwl

Person studying using a laptop

Cyn unrhyw ryngweithio pwysig ag unigolion neu grwpiau o bobl, rhaid i chi osgoi lansio eich hun i mewn i'r sefyllfa heb fod yn gwbl barod. Mae'r paratoi hwn yn golygu gwneud eich ymchwil i'r pwnc a bod â’r meddylfryd cywir.

Yn gyntaf, mae angen i chi ofyn i chi’ch hun a ydych chi'n hollol gyfarwydd â'r negeseuon rydych chi am eu rhoi ac a ydych chi wedi gwneud y paratoadau angenrheidiol. Mae'n hanfodol eich bod yn ymddangos yn hyderus ac yn wybodus, gan y bydd mwy o bobl yn eich credu ac yn gwrando ar beth sydd gennych i'w ddweud. Ond dim ond pan fyddwch wedi gwneud eich gwaith cartref y gallwch wneud hyn.

Yn ail, rhaid i chi dreulio amser yn paratoi'n feddyliol ar gyfer cyfarfodydd, cyflwyniadau a rhyngweithio sy'n bwysig i'ch llwyddiant. Bydd meddylfryd nad yw'n canolbwyntio ar gyflwyno cyflwyniad neu gyfarfod llwyddiannus yn cynhyrchu perfformiad boddhaol, ar y gorau. Mae angen i chi gymryd amser i deilwra eich syniadau i'r digwyddiad. Mae hyn yn golygu bod â’r meddylfryd cywir ar gyfer yr hyn rydych chi ar fin ei wneud.

Po fwyaf y byddwch chi'n ymarfer paratoi’n feddyliol, y gorau y byddwch chi. Bydd cyfuno hyn ag ymchwil drylwyr i'ch pwnc yn golygu na fydd angen i chi osod unrhyw gyfyngiadau ar yr hyn rydych chi eisiau ei gyflawni a bydd yn atal ofn rhag eich dal chi'n ôl rhag gwneud cysylltiadau pwysig.

Cyn hir, byddwch chi wedi meistroli'r grefft o gyfathrebu'n effeithiol ar wahanol lefelau, o ryngweithio un i un i grwpiau bach a mawr. Bydd cael gafael gadarn ar eich deunydd a pharatoi eich hun yn helpu i roi'r gallu i chi ymgysylltu'n effeithiol ag unrhyw un. Po fwyaf y byddwch chi'n ymarfer, y mwyaf cymwys byddwch chi.

Ysgrifennwyd y blog gan Winning Pitch, sy'n brif bartner cyflawni ar gyfer Consortiwm Excelerator, sy’n rheoli Rhaglen Cyflymu Twf Busnes Cymru.

Mae manylion y Rhaglen ar gael ar y wefan Rhaglen Cyflymu Twf.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.