AI UK yw arddangosfa genedlaethol y Deyrnas Unedig o waith ymchwil ac arloesi ym maes Gwyddor Data a Deallusrwydd Artiffisial (AI), a gynhelir gan Sefydliad Alan Turing.
Cynhelir y digwyddiad o 19 i 20 Mawrth 2024 yn Llundain a bydd yn archwilio’n fanwl sut y gellir defnyddio gwyddor data a deallusrwydd artiffisial i ddatrys heriau byd go iawn.
Strwythurwyd y rhaglen amrywiol fesul thema o amgylch yr arloesiadau diweddaraf ar draws yr ecosystem deallusrwydd artiffisial. Trwy ystod eang o gynnwys rhyngweithiol, gallwch ddisgwyl clywed y farn ddiweddaraf am ddeallusrwydd artiffisial sylfaenol, gefeilliaid digidol, tuedd algorithmig, moeseg deallusrwydd artiffisial – a llawer mwy.
Mae Innovate UK yn cynnig tocynnau hanner pris i 50 o ymgeiswyr cymwys o fusnesau bach a chanolig (BBaChau). I gael gwybod mwy, dewiswch y ddolen ganlynol: Innovate UK Business Connect on LinkedIn: #bridgeai #aiuk
Gallwch gofrestru ar gyfer y ffrwd fyw am ddim neu brynu tocyn i fynychu wyneb yn wyneb yma: AI UK 2024 (eventsforce.net)
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: AI UK 2024 | The Alan Turing Institute