Bellach yn ei drydedd flwyddyn, gyda chefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru a CGGC, bydd Ail-lenwi yn cynyddu faint o ddŵr yfed o safon sydd ar gael yn sylweddol, ac yn helpu atal llygredd plastig yn y man cychwyn gyda’r Ap Ail-lenwi.
O goffi wrth i chi gymudo, i yfed dŵr wrth fynd, neu hyd yn oed siopa â llai o becynnu, mae Ail-lenwi yn rhoi’r pŵer i leihau plastig ar flaenau eich bysedd.
Mae Ail-lenwi yn gweithio trwy gysylltu pobl â lleoliadau lle maen nhw’n gallu bwyta, yfed a siopa â llai o wastraff.
Gall unrhyw un lawrlwytho’r ap yn rhad ac am ddim i ddod o hyd i orsafoedd ail-lenwi lleol cyfagos.
Mae busnesau sy’n cymryd rhan yn cofrestru ar gyfer yr ap ac yn rhoi sticer yn eu ffenestr, gan roi gwybod i bobl sy’n mynd heibio fod croeso iddyn nhw ddod i mewn ac ail-lenwi.
Dewch o hyd i’ch cynllun ail-lenwi agosaf Refill Schemes | Refill | find a scheme and Join the Refill Revolution.
Rhowch eich tap ar y map! Cofrestrwch eich busnes i fod yn orsaf ail-lenwi Add a Refill Station | Refill | Join the Refill movement.
Lawrlwythwch y REFILL APP a bod yn rhan o’r #chwyldroail-lenwi!
I gael mwy o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Ail-lenwi Cymru | Ail-lenwi | Cenedl Ail-lenwi gan Lywodraeth Cymru