Mae pobl ifanc yn debygol o fod yn newydd i'r gweithle ac felly mewn mwy o berygl o gael eu hanafu yn ystod chwe mis cyntaf swydd, gan efallai y byddan nhw'n llai ymwybodol o risgiau.
Pan fyddwch yn cyflogi pobl ifanc o dan 18 oed, mae gennych yr un cyfrifoldebau am eu hiechyd, eu diogelwch a'u lles nhw ag sydd gennych am weithwyr eraill. Mae hyn yn berthnasol p'un a ydynt:
- yn weithiwr
- ar brofiad gwaith
- yn brentis
Darganfyddwch fwy am amddiffyn pobl ifanc yn y gwaith ar wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE).
Mae gan wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyngor a chanllawiau ar sut i ddiogelu gweithwyr bregus eraill fel:
- gweithwyr hŷn
- gweithwyr sy’n gweithio ar eu pennau’u hunain
- mamau newydd a beichiog
Tanysgrifiwch i e-fwletin gweithwyr bregus yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i dderbyn y canllawiau a'r wybodaeth ddiweddaraf am yr holl bynciau hyn.