BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Amser i Newid Cymru – Digwyddiad i Gyflogwyr

Mae Amser i Newid Cymru yn ymgyrch genedlaethol i roi terfyn ar y stigma y mae pobl â phroblemau iechyd meddwl yn ei wynebu. Fe’ch gwahoddir i fynychu ddigwyddiad rhwydweithio i gyflogwyr a gynhelir mewn person ac ar-lein. 

Mae’r digwyddiad, sydd am ddim, wedi’i drefnu ar gyfer 17 Gorffennaf 2023 rhwng 10am a 1pm. Fe’i cynhelir yng Ngholeg Pen-y-bont – Campws Pencoed, CF35 5LG, ac ar-lein trwy gyfrwng Microsoft Teams (bydd dolen ar gyfer ymuno yn cael ei hanfon atoch yn agosach at yr amser).

Bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i gyflogwyr glywed gan gyflogwyr sydd wedi ymrwymo i gyflwyno newidiadau sydd wedi helpu i herio stigma a gwahaniaethu ar sail iechyd meddwl yn eu sefydliadau. Bydd tîm cyflogwyr Amser i Newid Cymru yn cyflwyno diweddariadau, a chynhelir sesiwn gweithdy gyda syniadau a diweddariadau ar sut i gyflwyno ymgyrchoedd yn erbyn stigma o fewn y gweithle. 

I gael rhagor o wybodaeth ac archebu eich lle, cliciwch y ddolen ganlynol: Time to Change Wales - Employers Event Tickets, Mon 17 Jul 2023 at 10:00 | Eventbrite

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.