Bydd amserlen newydd ar gyfer cyflwyno prosesau rheoli mewnforion ar y ffiniau yn galluogi busnesau’r DU i ganolbwyntio ar adferiad yn dilyn pandemig COVID. Nawr, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno prosesau rheoli ffiniau llawn, chwe mis yn hwyrach na’r bwriad gwreiddiol.
O 1 Hydref 2021:
- Bydd angen gofynion cyn-hysbysu ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, bwyd risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid (HRFNAO) a sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol.
- Bydd angen tystysgrifau iechyd ar gyfer cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid a sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol.
Am ragor o wybodaeth am fewnforio neu symud anifeiliaid byw, cynhyrchion anifeiliaid a bwyd risg uchel a phorthiant sy’n dod o anifeiliaid, ewch i GOV.UK.
Am ragor o wybodaeth am fewnforio neu symud pysgod i’r DU, ewch i GOV.UK.
O 1 Ionawr 2021
- Bydd angen datganiadau Diogelwch ar gyfer nwyddau sy’n cael eu mewnforio.
- Cynhelir archwiliadau SPS ffisegol ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, sgil-gynhyrchion anifeiliaid penodol, HRFNAO a phlanhigion risg uchel, ar Safleoedd Rheoli Ffiniau.
- Bydd gofynion cyn-hysbysu ac archwiliadau o ddogfennau, gan gynnwys tystysgrifau ffytoiechydol, yn cael eu cyflwyno ar gyfer planhigion risg isel a chynhyrchion planhigion.
- Bydd angen datganiadau tollau ar yr holl nwyddau wrth fewnforio, ac ni fydd busnesau’n gallu defnyddio’r cynllun datgelu a ohiriwyd.
O 1 Mawrth 2022:
- Archwiliadau ar Safleoedd Rheoli Ffiniau ar anifeiliaid byw, planhigion risg isel a chynhyrchion planhigion.
- Bydd masnachwyr sy’n symud nwyddau a reolir i Brydain Fawr yn parhau i fod yn anghymwys ar gyfer y dull datgelu tollau a ohiriwyd. Felly, bydd gofyn iddynt gwblhau datganiad tollau llawn, pan fydd y nwyddau yn dod i mewn i Brydain Fawr.
Am ragor o wybodaeth am y cyhoeddiad, ewch i GOV.UK.
Am ganllaw cam wrth gam ar fewnforio nwyddau i’r DU, ewch i GOV.UK. .
Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.