BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Annog busnesau sy’n defnyddio llawer o ynni i hawlio gostyngiad ychwanegol ar filiau ynni

Mae gan fusnesau sy’n defnyddio llawer o ynni a gweithredwyr rhwydwaith gwres lai na mis ar ôl i wneud cais am gymorth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a allai wneud eu biliau ynni cyfanwerth gymaint ag un rhan o bump yn rhatach.

Anogir yr holl fusnesau cymwys i weithredu nawr i elwa o’r cymorth sydd ar gael trwy’r Cynllun Gostyngiad mewn Biliau Ynni. Mae gan gwmnïau tan 25 Gorffennaf 2023 i wneud cais, a bydd gostyngiadau’n cael eu cymhwyso i’w biliau tan fis Ebrill y flwyddyn nesaf. 

Rhoddwyd y cynllun ar waith i gadw costau’n isel trwy gynnig cyfradd uwch o gymorth i’r rhai sy’n defnyddio symiau sylweddol o ynni i ddarparu eu gwasanaethau a’u nwyddau – fel cwmnïau serameg a thecstilau. 

Cynghorir busnesau i wirio GOV.UK  cyn gynted â phosibl i weld a ydynt yn gymwys a beth mae angen iddynt ei wneud i ymgeisio. 

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol High energy use businesses urged to claim extra discount on energy bills - GOV.UK (www.gov.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.