BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Annog cwmnïau i gyflwyno cyfrifon yn gynnar er mwyn osgoi cosbau

e-newsletter

Os disgwylir i chi gyflwyno cyfrifon i Dŷ'r Cwmnïau erbyn diwedd mis Medi, caniatewch ddigon o amser cyn eich dyddiad cau. 

Rhaid i bob cwmni cyfyngedig, p'un a yw’n masnachu ai peidio, gyflwyno cyfrifon blynyddol bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys cwmnïau segur. 

Mae gan gyfarwyddwyr lawer o gyfrifoldebau, gan gynnwys diweddaru cofnodion cwmni a sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno ar amser. Mae angen i chi ddeall eich rôl fel cyfarwyddwr, pwysigrwydd parhau i gydymffurfio a sut y gallai cyflwyno’n hwyr effeithio ar eich cwmni.

Gallai methu eich dyddiad cau cyflwyno effeithio ar eich sgôr credyd neu fynediad at gyllid. Gall effeithio ar sut mae pobl eraill yn ystyried eich cwmni ac a ydynt eisiau gwneud busnes gyda chi. Mae cosbau ariannol a chanlyniadau cyfreithiol, hefyd - gallech gael cofnod troseddol, dirwy neu gael eich gwahardd.

Hyd yn oed os yw cyfrifydd yn cyflwyno cyfrifon eich cwmni ar eich rhan, eich cyfrifoldeb chi, fel cyfarwyddwr, yw sicrhau eu bod yn cael eu cyflwyno ar amser.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Annog cwmnïau i ffeilio cyfrifon yn gynnar er mwyn osgoi cosbau - GOV.UK (www.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.