BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Annog pobl i wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Gyda llai na 6 mis hyd ddyddiad cau gwneud cais am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ar 30 Mehefin 2021, anogir dinasyddion Ewrop i wneud cais nawr i sicrhau eu hawliau yng nghyfraith y DU.

Os ydych chi’n ddinesydd o’r UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir, gallwch chi a’ch teulu wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE er mwyn parhau i fyw yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021. Gallwch wneud cais hefyd os ydych chi’n aelod o deulu person cymwys o Ogledd Iwerddon.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Am ragor o wybodaeth am sut i baratoi eich busnes ar gyfer y rheolau newydd rhwng y DU a’r UE, ewch i Borth Cyfnod Pontio'r UE Busnes Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.