Mae perchennog busnes bach wedi annog rhieni i gofrestru ar gyfer Cynnig Gofal Plant Llywodraeth Cymru cyn i dymor yr hydref ddechrau. Dywedodd Lisa Jones, sy'n rhedeg caffi Y Diod yn Llandeilo, ei bod yn hawdd gwneud cais am y Cynnig Gofal Plant a'i fod wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'w bywyd.
Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi'i ariannu i rieni sydd mewn gwaith, addysg neu hyfforddiant a chanddynt blant rhwng 3 a 4 oed.
Ei nod yw helpu rhieni ar draws Cymru i ddychwelyd i'r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio'n fwy hyblyg.
Mae tua 20,000 o blant yn cael eu cefnogi bob blwyddyn drwy Gynnig Gofal Plant Cymru.
I fod yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant, rhaid i rieni a gwarcheidwaid:
- fod â phlentyn 3 neu 4 oed
- fod yn byw yng Nghymru
- fod ag incwm gros o £100,000 neu lai y flwyddyn
- fod yn gyflogedig ac yn ennill o leiaf 16 awr yr wythnos ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'r Cyflog Byw
- neu fod wedi cofrestru ar gwrs israddedig, ôl-raddedig neu addysg bellach sydd o leiaf 10 wythnos o hyd
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Annog rhieni i gofrestru ar gyfer y Cynnig Gofal Plant cyn tymor yr hydref | LLYW.CYMRU