BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ansicr pa hawl eiddo deallusol sydd i chi?

Gall Eiddo Deallusol gyfrif am fwy na 70% o werth eich busnes, sy’n llawer mwy na’r asedau ffisegol yn eich busnes.

Mae pedwar math o hawliau eiddo deallusol yn y DU:

  • patentau
  • hawlfraint
  • nodau masnach
  • cynlluniau cofrestredig

Os nad ydych chi’n siŵr pa un (neu rai) sy’n iawn ar gyfer eich busnes chi, ewch i drosolwg Eiddo Deallusol Llywodraeth y DU. 

Gallwch weld sut mae nodi, diogelu a manteisio ar eich asedau Eiddo Deallusol gydag adnoddau cymorth ar-lein rhyngweithiol AM DDIM. Mae hyn yn cynnwys gweminarau, adnoddau dysgu ar-lein, astudiaethau achos a llawer mwy.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.