Bydd ap COVID-19 y GIG yn cael ei lansio ddydd Iau 24 Medi yng Nghymru a Lloegr gan gynnwys cofrestru QR mewn lleoliadau.
Mae busnesau’n cael eu hannog i lawrlwytho codau QR y GIG.
Bydd codau QR yn ffordd bwysig i unigolion gofnodi eu symudiadau gan helpu system Profi, Olrhain, Diogelu y GIG.
Dylech greu ac arddangos cod QR os ydych:
- yn fusnes, yn fan addoli neu’n sefydliad cymunedol â lleoliad ffisegol sy’n agored i’r cyhoedd
- yn ddigwyddiad sy’n cael ei gynnal mewn lleoliad ffisegol
Os oes gennych fwy nag un lleoliad, mae angen i chi greu cod QR ar wahân ar gyfer pob lleoliad.
Mae cod QR y GIG a’r swyddogaeth gofrestru yn ychwanegol at y mesurau presennol. Bydd angen i leoliadau yng Nghymru sydd â gofyniad cyfreithiol i gasglu a chadw cofnod o ymwelwyr wneud hynny o hyd.
Dylai lleoliadau lawrlwytho’r codau QR o wefan GOV.UK.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael o wefan llyw.cymru.