BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ap newydd i atal cysylltiadau maleisus ar-lein

Bydd yr ap newydd ‘Craffwch Cyn Cysylltu’ (‘Think Before you Link’) yn helpu busnesau a’r cyhoedd i ddiogelu eu hunain rhag ysbïwriaeth bosibl.

Mae ap arloesol wedi cael ei lansio sy’n caniatáu i ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol a safleoedd rhwydweithio proffesiynol allu adnabod arwyddion proffiliau ffug a ddefnyddir gan ysbiwyr tramor a gweithredwyr maleisus eraill yn well, a chymryd camau i adrodd amdanynt a’u dileu.

Mae’r ap newydd yn rhan o ymgyrch ‘Craffwch Cyn Cysylltu’ y Ganolfan Diogelu Seilwaith Cenedlaethol (CPNI). Fe’i datblygwyd gyda gwyddonwyr ymddygiadol i gynnwys nodweddion fel adolygwr proffil, a fydd yn helpu unigolion i adnabod proffiliau a allai fod yn ffug ac adrodd am unrhyw beth sy’n ymddangos yn amheus iddynt.

Mae’r ap ar gael am ddim i’w lawrlwytho o Google Play neu’r Apple Store.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Ap newydd i atal cysylltiadau maleisus ar-lein - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.