BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Apêl i Gwmnïau’r Gogledd gyfrannu Cit TG diangen

Menter gymdeithasol nid-er-elw (a elwir yn Gwmni Buddiannau Cymunedol hefyd) yw North Wales Digital Drive a dyma’r unig ganolfan driniaeth o’i math yn y Gogledd.

Mae’n cynnig gwasanaethau ailgylchu, ailddefnyddio a gwaredu diogel a phroffesiynol ar gyfer pob math o gyfarpar TG.
Mae’r fenter gymdeithasol wedi darparu cyfarpar i sefydliadau ledled y Gogledd ac mae angen mwy o fusnesau a chyrff sector cyhoeddus i’w helpu fel y gallan nhw ymateb yn brydlon i’r galw.

Ar ôl cael gwared ar unrhyw ddata’n ddiogel, mae 20% o gyfarpar sy’n gweithio a dderbyniwyd gan sefydliadau’n cael eu hailwampio i’w hailddefnyddio ac yn cael eu rhoi i elusennau a grwpiau cymunedol lleol.
Mae’r gweddill yn cael eu gwerthu i ariannu’r Cwmni Buddiannau Cymunedol, ac am brisiau llawer is i grwpiau yn y gymuned sy’n methu â fforddio’r TG sydd ei hangen arnyn nhw, fel teuluoedd ar incwm isel, pobl sydd wedi bod yn ddi-waith am gyfnod hir a busnesau newydd sbon.

Os oes gennych chi fel busnes neu unigolyn ddyfais sy’n gweithio’n iawn yr hoffech ei chyfrannu, cysylltwch â nhw drwy glicio ar y ddolen hon https://walesrecycleit.com/contact-1

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan North Wales Digital Drive 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.