BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Ar agor ar gyfer ceisiadau: Gwobr Enterprise Nation Sefydlydd Busnes y Flwyddyn sy’n Fenyw 2021

Mae gwobr Sefydlydd Busnes y Flwyddyn sy’n Fenyw yn dathlu’r gorau o entrepreneuriaeth fenywaidd yn y DU. Os ydych chi wedi creu cynnyrch anhygoel, yn cynnig gwasanaeth gwych neu’n gwneud rhywbeth gwirioneddol wahanol gyda’ch busnes, mae Enterprise Nation eisiau clywed gennych chi.

Mae’r beirniaid yn chwilio am gyfeiriad clir ar gyfer dyfodol cwmni newydd ymgeiswyr, gyda gweledigaeth, pwrpas a chenhadaeth. Yn gyfnewid am hyn, mae llu o wobrau a chyfleoedd i roi hwb i’r busnes ar gael i’r enillydd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Mercher 22 Medi 2021. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Enterprise Nation
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.