Newyddion

Archebwch Eich Lle Yn Procurex Cymru 2024

Procurex Cymru

Bydd Procurex Cymru, digwyddiad caffael cyhoeddus mwyaf blaenllaw’r wlad, yn cael ei gynnal ar 5 Tachwedd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd. Caiff y digwyddiad ei drefnu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, a bydd yn dod â 1,000 a mwy o benderfynwyr allweddol o’r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd am ddiwrnod o rwydweithio, hyfforddi a chydweithio â chyflenwyr.

I archebu tocynnau, ewch i wefan Procurex Cymru yma.

Mae llawer iawn o fanteision o fynd i Procurex Cymru fel cyflenwr, gan gynnwys:

  • Datblygu cysylltiadau cryfach â phrynwyr allweddol
  • Cyfleoedd i ddatblygu brand eich busnes
  • Cyfleoedd i hyfforddi, datblygu, a dod i ddeall y farchnad
  • Deall goblygiadau deddfwriaeth gaffael newydd

Gall cynadleddwyr sydd wedi cofrestru fynd i Gynhadledd Procurex Cymru, lle mae siaradwyr gwadd a phaneli o’r diwydiant yn trafod y newidiadau a’r tueddiadau diweddaraf yn y sector caffael. Yn ogystal â hyn, mae nifer fawr o sesiynau hyfforddiant ar gael i gyflenwyr yn y digwyddiad, yn enwedig y Parth Arloesi yn y Gadwyn Gyflenwi – cliciwch yma i weld yr agenda.

Neu, os hoffech chi gyrraedd mwy o bobl yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, ystyriwch noddi Procurex Cymru neu arddangos yn y digwyddiad. Mae’r manteision yn cynnwys datblygu perthnasoedd newydd gwerthfawr, creu cyfleoedd newydd i werthu, cwrdd ag amryw o brynwyr allweddol, datblygu dealltwriaeth o’r farchnad, ac arddangos eich cynnyrch a’ch datrysiadau i gynulleidfa sydd â diddordeb.

Llwythwch y llyfryn gwerthu i lawr yma i ddysgu mwy, neu cysylltwch â ni’n uniongyrchol drwy anfon e-bost at exhibitions@procurexwales.co.uk neu drwy ffonio 0141 739 5383.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Procurex Cymru ar 5 Tachwedd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd!


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.