BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Archwiliadau data am ddim i fusnesau bach

Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn darparu archwiliadau data cynghorol am ddim i berchnogion sefydliadau bach, megis busnesau bach, elusennau bach, grwpiau neu glybiau ac unig fasnachwyr. Mae’r archwiliadau wedi’u teilwra i faint sefydliad a’r math o waith y mae’n ei wneud, gan ganolbwyntio’n benodol ar feysydd sy’n bwysig i gwsmeriaid, gwirfoddolwyr ac aelodau. Bydd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hefyd yn darparu adroddiad yn amlinellu’r hyn y mae angen i sefydliadau ei wneud i ymdrin â data yn fwy effeithiol.

Gwnewch gais am archwiliad cynghori anffurfiol drwy lenwi’r ffurflen ar-lein hon. Bydd eich manylion yn cael eu trosglwyddo i un o dîm Busnesau Bach a Chanolig Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, a fydd yn cysylltu â chi os oes modd iddynt drefnu archwiliad cynghori ar-lein.

I gael cyngor ar gyfer bob sefydliad bach, ewch i hwb gwe BBaChau Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.