BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Archwilio Allforio Cymru 2023

Yn dilyn llwyddiant digwyddiad 2022 mae’n bleser gan Lywodraeth Cymru gyhoeddi dyddiadau ein cynhadledd flynyddol ar allforio. Yn sgil y diddordeb yn y gynhadledd byddwn yn cynnal dau ddigwyddiad eleni: 

  • Dydd Iau 9 Mawrth 2023 yn Stadiwm Dinas Caerdydd
  • Dydd Iau 16 Mawrth 2023 yn y Village Hotel St David’s, Glannau Dyfrdwy 

Bydd y gynhadledd yn cynnwys cyfuniad o seminarau penodol ar allforio, sesiynau un i un gyda chynrychiolwyr o farchnadoedd tramor, ardal arddangos a llawer iawn mwy.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gofrestru - Archwilio Allforio Cymru 2023
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.