Mae cynadleddau Archwilio Allforio Cymru Llywodraeth Cymru yn cael eu cynnal ddydd Iau 13 Mawrth yn Stadiwm Dinas Caerdydd a dydd Iau 20 Mawrth 2024 yn Venue Cymru, Llandudno.
Mae'r cynadleddau yn dod ag Ecosystem Allforio Cymru ynghyd mewn un lle i ddarparu cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar allforio.
Ymunwch â seminarau arbenigol a byrddau crwn ar faterion allweddol am allforio, ymweld ag arddangoswyr ecosystemau sy'n cwmpasu cyllid, materion cyfreithiol a logisteg a fydd wrth law i drafod sut y gallant helpu eich busnes. Gallwch hefyd ymweld ag ardal allforio bwrpasol Llywodraeth Cymru sy'n rhoi cyfle ymarferol i fusnesau edrych ar ein platfform digidol yn ogystal â chwrdd â'n Cynghorwyr Masnach Rhyngwladol.
Os yw eich busnes yn allforio ar hyn o bryd neu hyd yn oed ystyried mentro i farchnadoedd dramor newydd, trwy fynd i'r gynhadledd byddwch yn derbyn cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar fasnachu yn y farchnad fyd-eang.
Yr hyn sydd hyd yn oed yn well yw bod y digwyddiad hwn yn rhad ac am ddim, felly peidiwch ag oedi cyn cofrestru i sicrhau eich lle yn un o'r cynadleddau trwy ddilyn y ddolen hon: Archwilio Allforio Cymru 2025 | Drupal