
Ym mis Mawrth 2025 bydd cynhadledd fasnach ryngwladol Llywodraeth Cymru, Archwilio Allforio Cymru, yn dychwelyd.
Mae'r gynhadledd, sy'n cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar 13 Mawrth a Llandudno ar 20 Mawrth, yn ddigwyddiad allweddol i unrhyw fusnes o Gymru sy'n allforio neu sydd â diddordeb yn y potensial y gall allforio ei gynnig.
Pam mynychu?
- Cyfarfodydd un-i-un gyda chynrychiolwyr tramor – archwilio cyfleoedd a chael mewnwelediadau i'r farchnad.
- Arddangosfeydd – bydd sefydliadau cymorth sy'n ymwneud â chyllid, logisteg, cyngor cyfreithiol a mwy wrth law i siarad â chi.
- Gweithdai – detholiad o sgyrsiau yn cwmpasu'r cyngor a'r arweiniad diweddaraf gan gynnwys cymorth gan y llywodraeth, llwybrau i'r farchnad, mynediad at gyllid a llawer mwy.
- Araith weinidogol a sesiwn lawn – anerchiad agoriadol gan Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio ynghyd â sesiwn holi ac ateb gydag allforwyr sefydledig.
- Parth Allforio Llywodraeth Cymru – cyfle i sgwrsio gyda chynghorwyr masnach a rhoi cynnig ar rai o'r offer cymorth digidol.
Mae cofrestru yn rhad ac am ddim. Am ragor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol: Archwilio Allforio Cymru 2025