BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arddangos Talent Cymreig yn Llundain

Sunset at the City of London, England, with street traffic light trails and illuminated skyscrapers

Mae M-SParc, mewn cydweithrediad â Chymdeithas Cymru yn Llundain a GlobalWelsh, yn dod i Lundain i gynnal deuddydd o ddigwyddiadau sy’n arddangos arloesedd a thalent Cymru o dan y faner #AryLonDon.

Ar Fedi 25, bydd M-SParc yn cynnal noson yng Nghanolfan Cymry Llundain er mwyn hysbysebu amgylchedd busnes Cymru. Cewch eich croesawu â gwydriad o win a gweithgareddau torri’r ias gyda’r tîm STEM, cyn i’r noson gael ei hagor yn swyddogol gyda chyflwyniad gan Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc.

Yna, bydd trafodaeth o'r enw "Siarad Trwy Dy Het" gan banel o siaradwyr, gan gynnwys Llinos Medi AS, Tom Attewell o GlobalWelsh, Peter Evans o Gymdeithas Cymru yn Llundain, a Huw Brassington o Tenet.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiadau gan Hywel Pitts a Gareth yr Orangutan. Mewn segment o'r enw "Sioe Gareth", bydd Gareth yr Orangutan yn cynnal sgyrsiau bywiog gydag unigolion o Busnes Cymru, Mentera a Cywain.

Bydd bwyd a diod o Gymru ar gael ar y noson, yn ogystal â digonedd o gyfleoedd i rwydweithio.

Ar Fedi 26, cynaliadwyedd ac arloesi gwyrdd fydd yn cael sylw’r noson. M-SParc sydd yn noddi'r digwyddiad "Connect to London”, a drefnir gan GlobalWelsh. Dyma ddigwyddiad arbennig sydd yn ceisio cysylltu entrepreneuriaid o Gymru â buddsoddwyr, cynghorwyr a mentoriaid yn Llundain.

Bydd Nan Williams, Prif Swyddog Gweithredol Four Agency a Chadeirydd GlobalWelsh, yn agor y digwyddiad, cyn y cawn drafodaeth banel o'r enw "Is Wales' Future Green?" dan arweiniad Andy Fryers, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Gŵyl y Gelli. Bydd y panel yn trafod llwybr Cymru tuag at ddyfodol cynaliadwy, a bydd Ben Burggraaf, Prif Swyddog Gweithredol Sero Net Cymru, yno i gynnig ei ddealltwriaeth a’i brofiad helaeth o reoli ynni a lleihau carbon.

Bydd wyth entrepreneur o Gymru yno hefyd i gyflwyno eu busnesau, gan gynnwys rhai o denantiaid M-SParc. Byddant yn arddangos eu busnesau gwyrdd arloesol i gynulleidfa o ddarpar fuddsoddwyr er mwyn cael sylw a chyfleoedd ariannol.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol am ragor o wybodaeth ac i gofrestru i gael eich tocynnau am ddim: Tocynnau Ar y LonDon, Dydd Mercher, Medi 25, 2024 am 6:30 PM | Eventbrite 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.