BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arddangoswyr Datgarboneiddio Trafnidiaeth 

Cars with exhaust fumes

Dyma gystadleuaeth newydd gwerth £2 filiwn i annog busnesau ac awdurdodau lleol i gydweithio er mwyn datblygu a threialu cynlluniau trafnidiaeth sy’n torri allyriadau yn y tymor hir. 

Hefyd, bydd rhaglen yr Arddangoswyr Datgarboneiddio Trafnidiaeth, a ariennir gan yr Adran Drafnidiaeth, yn helpu i dyfu economïau lleol trwy gynorthwyo busnesau i ddwyn atebion newydd yn agosach at y farchnad.

Gall unrhyw fusnes yn y Deyrnas Unedig wneud cais am hyd at £500,000 i gynnal treialon arloesol sy’n mynd i’r afael â heriau trafnidiaeth leol ar lawr gwlad. Bydd hanner y gronfa £2 filiwn hon yn cael ei neilltuo i ardaloedd gwledig, gan eu cynorthwyo i ddatgloi buddion technoleg ac arloesiadau er mwyn mynd i’r afael â heriau fel mynediad at swyddi a lleihau unigrwydd.

Bydd y treialon yn helpu i ddatblygu systemau trafnidiaeth werdd y dyfodol, gan wella’r dewis o opsiynau trafnidiaeth sydd ar gael i deithwyr.  

Bydd y grantiau cystadleuol yn cael eu dyfarnu a’u cyflwyno gan Innovate UK – rhan o UK Research and Innovation (UKRI) – ac asiantaeth arloesi genedlaethol y DU, sy’n helpu busnesau i dyfu a datblygu technolegau newydd. 

Mae’r gystadleuaeth yn cau ar 8 Ionawr 2024.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen ganlynol Transport Decarbonisation Demonstrators - Innovation Funding Service  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.