Mae gwybodaeth am iechyd ymhlith y wybodaeth bersonol fwyaf sensitif y gallech ei phrosesu am eich gweithwyr. Mae cyfraith diogelu data yn berthnasol pryd bynnag y byddwch yn prosesu gwybodaeth am iechyd eich gweithwyr.
Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn cynhyrchu adnodd ar-lein gyda chanllawiau pwnc-benodol ar arferion cyflogaeth a diogelu data. Mae'r ICO yn rhyddhau drafftiau o'r gwahanol feysydd pwnc fesul cam ac yn ychwanegu at yr adnodd dros gyfnod. Mae drafft o'r canllawiau ar drin gwybodaeth am iechyd gweithwyr bellach wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori arnynt yn gyhoeddus.
Nod y canllawiau drafft yw rhoi canllawiau ymarferol ynghylch ymdrin â gwybodaeth am iechyd gweithwyr yn unol â deddfwriaeth diogelu data a hyrwyddo arfer da.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau drafft yn parhau ar agor tan 5pm ddydd Iau, 26 Ionawr 2023. Mae'r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn croesawu adborth ar y cwestiynau penodol a nodir yn yr ymgynghoriad.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol ICO consultation on draft employment practices guidance – information about workers’ health | ICO