Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) yn cynhyrchu canllawiau pwnc-benodol ar arferion cyflogaeth a diogelu data. Mae'r ICO yn rhyddhau drafftiau o'r meysydd pwnc gwahanol fesul cam ac yn ychwanegu at yr adnodd dros gyfnod. Mae drafft o'r canllawiau ar fonitro yn y gwaith bellach wedi cael eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghori arnynt yn gyhoeddus.
Nod y canllawiau drafft yw rhoi canllawiau ymarferol ynghylch monitro gweithwyr yn unol â deddfwriaeth diogelu data a hyrwyddo arfer da.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y canllawiau drafft a'r asesiad o effaith drafft yn parhau ar agor tan 11 Ionawr 2023.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar yr ymgynghoriad ICO consultation on the draft employment practices: monitoring at work guidance and draft impact assessment | ICO