Mae argyfwng costau byw y DU yn effeithio ar bobl ledled y DU.
Mae chwyddiant cynyddol, yn arbennig ar gyfer nwyddau critigol (fel ynni, bwyd a thanwydd), yn gwthio aelwydydd i dlodi a chaledi ariannol, gan gynnwys y rheiny mewn cyflogaeth. Mae hefyd yn ymestyn i’r pen y sefydliadau cymunedol sy'n helpu'r aelwydydd hyn.
Mae Business in the Community (BITC) wedi lansio Cynllun Gweithredu Costau Byw newydd ar gyfer Busnesau sy'n manylu ar 12 galwad i weithredu i'ch cefnogi i fod yn gyflymach, yn fwy dewr ac yn fwy beiddgar yn eich ymateb i'r argyfwng parhaus.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni canlynol:
- Cost-of-living crisis: helping businesses respond - Business in the Community (bitc.org.uk)
- Employment and Skills - Business in the Community (bitc.org.uk)
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Busnes Cymru, bydd y digwyddiad yn dod â busnesau ac arweinwyr traws-sectorau ynghyd i godi proffil dulliau cyfrifol o greu swyddi hygyrch a chyflog teg, a chyfleoedd i wneud cynnydd.
Yn ogystal â chreu camau sylweddol i helpu gweithwyr i lywio heriau'r argyfwng costau byw.
Mae'r digwyddiad am ddim ac fe’i cynhelir ar 15 Chwefror 2022 yng Nghasnewydd. I drefnu lle, cliciwch ar y ddolen ganlynol Overview ⋮ Employability, skills & the cost-of-living crisis in Wales ⋮ Blackthorn ⋮ Events
I gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiadau BITC sydd ar ddod yng Nghymru, cliciwch ar y ddolen ganlynol MyBITC Event Group ⋮ Blackthorn ⋮ Events