BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Blogiau

Arloesi, cydweithredu a chefnogi: seiberddiogelu busnesau yng Nghymru

digital padlock

Mae seibergadernid yn rhywbeth na all yr un busnes yng Nghymru fforddio bod hebddo. Nid problem i gwmnïau mawr yn unig yw seiberddiogelwch: mae arolwg diweddar yn awgrymu bod 72% o fusnesau bach wedi dioddef seiberdrosedd. Gall ymosodiadau troseddol o’r fath amharu ar dddata ac asedau pwysig, gan effeithio ar barhad y busnes a niweidio ei enw da.

Ni ddylai hi fod yn gymhleth na chostus sicrhau lefel sylfaenol o ddiogelwch. Mae cyfoeth o arbenigedd ar gael yng Nghymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae ei Gynllun Gweithredu Seiber i Gymru yn canolbwyntio ar pedair blaenoriaeth: datblygu ecosystem seiber Cymru, adeiladu llif o dalentau, cryfhau ein seibergadernid a diogelu gwasanaethau cyhoeddus.

Meddai Pete Burnap, Athro Gwyddor Data a Seiberddiogelwch ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr Canolfan Arloesi Seiber Cymru: "Mae gennym ecosystem seiberddiogelwch ffyniannus yma, gyda set gref o gwmnïau mawr gan gynnwys Airbus, Thales, PwC, Jacobs a CGI. Mae llawer o fusnesau llai cysylltiedig, ac mae ein clwstwr yn dal i dyfu a ffynnu."

Mae'r ecosystem hon yn cynnig arbenigedd ym mhob sector o seiberddiogelwch. Ond mae Cymru'n gryf mewn tri maes penodol: amddiffyn technoleg weithredol, megis awtomeiddio gweithgynhyrchu; canfod a chasglu gwybodaeth am fygythiadau; ac agweddau ymddygiadol seiberddiogelwch.

Mae yna ddiwylliant cryf o gydweithio, gyda rhwydweithiau fel Cyber Wales yn dod â busnesau, y byd academaidd a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd i rannu gwybodaeth a syniadau. Mae prifysgolion Cymru yn cynnal cyrsiau gradd wedi'u hachredu gan y diwydiant, yn cynnal canolfannau ymchwil seiber ac yn cydweithio â busnesau technoleg blaenllaw yng Nghymru a thu hwnt.

Mae'n gwneud synnwyr i fusnesau Cymru droi am atebion lleol i'w problemau seiber. Mae Busnes Cymru  yn cynnig help i gael hyd i ddarparwyr gwasanaethau, cyllid, sgiliau a hyfforddiant. Mae Canolfan Seibergadernid Cymru - partneriaeth rhwng yr heddlu, prifysgolion a'r sector preifat - yn gwneud seiberddiogelwch yn syml ac yn rhad. Nid oes tâl i fod yn aelod sylfaen.

Mae gan Lywodraeth Cymru gysylltiadau agos â’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn GCHQ, sy'n cynnal adnoddau defnyddiol ar-lein. Menter allweddol arall yw'r Ganolfan Arloesedd Seiber, sy'n gallu cysylltu busnesau Cymru â'r arbenigwr seiber cywir. Dywedodd yr Athro Burnap: "Ar wefan y Ganolfan fe welwch erthyglau ar yr hyn y gall ein cwmnïau seiber ei gynnig, ac rydym yn cynnal cyrsiau byr i ddysgu sgiliau newydd i bobl leol. P'un a ydych chi'n fusnes mawr neu'n fach, mae'r gwasanaethau cywir ar gael, os ydych chi am eu defnyddio."

Mae cynnal ecosystem seiber gref yn dod â manteision sylweddol i Gymru. Mae'n cyfrannu at dwf economaidd, yn creu swyddi, ac yn helpu i ddenu, datblygu a chadw talent. Dywedodd yr Athro Burnap: "Mae buddsoddi mewn seiberddiogelwch yn helpu i wella sgiliau pobl mewn llawer o ddiwydiannau sylfaenol. Mae busnesau'n dod yn fwy cadarn, ac mae'r sector seiber yn tyfu. Mae’n stori wych."

Am wybodaeth a chyngor, ffoniwch linell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000, (rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg) neu ewch i Hafan | Busnes Cymru (gov.wales).


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.