BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arloeswyr Newydd mewn diwydiant sero net – De-orllewin Cymru

Lightbulb depicting innovation

Bydd Innovate UK yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i fuddsoddi hyd at £1.5 miliwn mewn prosiectau arloesi. Mae’r cyllid hwn yn rhan o raglen Launchpad Innovate UK.

Nod y gystadleuaeth hon yw darparu pecyn o gymorth wedi’i dargedu i alluogi microfusnesau a busnesau bach uchelgeisiol sydd wedi’u cofrestru yn y DU i ddatblygu syniadau hynod arloesol sydd â llwybr clir at fasnacheiddio a thwf busnes. Yn ogystal â chymorth grant, byddwch yn cael cynnig cymorth busnes wedi’i deilwra gan arbenigwyr arloesi busnes lleol a Thwf Busnes Innovate UK.

Bydd y busnesau’n defnyddio’r cyllid i ddatblygu eu gweithgareddau arloesi mewn diwydiant sero net yn Ne-orllewin Cymru, yn ystod y prosiect ac wedi hynny.  Rhaid i gyfanswm costau eich prosiect a’ch cais am arian grant ar gyfer y prosiect fod rhwng £25,000 a £50,000.

Daw’r gystadleuaeth i ben am 11am ar 19 Mehefin 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Competition overview - New Innovators in net zero industry, South West Wales - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)

Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd cyllido sydd ar gael i fusnesau yng Nghymru er mwyn iddynt arloesi a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi.

Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael at y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: Business Wales Events Finder - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein (business-events.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.