Ydych chi’n rhedeg busnes bach yng Nghymru?
Hoffech chi wybod sut mae eich aeddfedrwydd digidol yn cymharu â busnesau eraill yng Nghymru?
Mae'r Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU) Ysgol Busnes Caerdydd yn cynnal astudiaeth i effaith band eang ar berfformiad busnesau yng Nghymru.
Mae Cymru, fel y mwyafrif o genhedloedd eraill, yn mynd drwy gyfnod o drawsnewid cyflym o ganlyniad i bandemig COVID-19 dros y misoedd diwethaf. Felly mae technolegau digidol bellach yn llawer mwy canolog i fusnesau a chymdeithas wrth i fwy o weithwyr ddechrau gweithio gartref.
Bydd eich cyfranogiad yn helpu i gynhyrchu tystiolaeth ar y buddiannau a enillwyd gan fusnesau sy’n defnyddio technolegau digidol.
Bydd yr holl fusnesau a fydd yn cymryd rhan yn arolwg 2020 yn gymwys i dderbyn copi o’u Sgôr Aeddfedrwydd Digidol (anfonir hwn at yr holl gyfranogwyr yn gynnar yn 2021).
Cliciwch yma i gwblhau'r arolwg.
I gael rhagor o wybodaeth i wefan Prifysgol Caerdydd.