BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Cymru 2023

Mae astudiaeth eleni’n dadansoddi presenoldeb digidol bron i 6,000 o fusnesau yng Nghymru.

Mae’n cynnwys cynrychiolwyr o bob cornel o’r wlad gan roi darlun manwl o’r dechnoleg ddigidol a ddefnyddir ar draws economi Cymru. Gan ddefnyddio dull hollol newydd o fesur Aeddfedrwydd Digidol economi BBaCh Cymru, mae Arolwg Aeddfedrwydd Digidol Cymru 2023 yn cymryd sampl o fusnesau Cymru gan dracio eu presenoldeb ar-lein dros y saith mlynedd diwethaf a’u sgorio ar sail pump metrig allweddol. Dyma’r arolwg mwyaf o’i fath erioed yng Nghymru a’r cyntaf i fonitro gweithgareddau digidol busnesau Cymru’n uniongyrchol.

Ar y wefan, gallwch lawrlwytho’r adroddiad llawn a gweld crynodebau, siartiau a ffeithluniau’n cynnwys popeth sydd angen ei wybod am y defnydd a wneir o dechnoleg ddigidol yn economi Cymru:

  • Beth yw’r ganran o gwmnïau arloesi yn fy awdurdod lleol?
  • Pa sectorau busnes sydd fwyaf aeddfed yn ddigidol?
  • Sut y mae’r defnydd o’r Gymraeg ar wefannau wedi ehangu ers 2016?

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Home - Welsh Digital Maturity Survey 2023 (eticlab.co.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.