BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Busnes Llwybr Arfordir Cymru a Llwybrau Cenedlaethol

Clywedog reservoir, Glyndŵr's Way

A yw eich busnes neu sefydliad wedi’i leoli ger Llwybr Arfordir Cymru neu’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru? Os felly, ydych chi’n elwa o’r ymwelwyr neu’r cerddwyr sy’n defnyddio’r llwybrau hyn?

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi comisiynu asiantaeth ymchwil marchnad annibynnol, DJS Research Ltd i gynnal arolwg byr o fusnesau. Bydd yr arolwg yn helpu Cyfoeth Naturiol Cymru i ddeall yn well pa gymorth sydd ai angen ar fusnesau/sefydliadau i fanteisio’n llawn ar eu lleoliad a’r cyfleoedd y mae Llwybr Arfordir Cymru a/neu'r Llwybrau Cenedlaethol yn eu darparu.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gwblhau’r arolwg, dewiswch y ddolen ganlynol: DJS Research

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â Clare Rapkins, Uwch Reolwr Ymchwil yn DJS Research drwy ArolwgBusnesLlwybrau@djsresearch.com


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.