BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Busnes ScaleUp 2023

people holding speech bubbles

Mae busnesau sydd wrthi’n tyfu yn chwarae rhan allweddol yn economi’r Deyrnas Unedig (DU). Mae’n hanfodol bod lleisiau busnes yn cael eu clywed a bod y rhwystrau sy’n atal twf parhaus yn cael eu dileu.

Mae’r ScaleUp Institute yn gweithio i wneud y DU y lle gorau yn y byd i fusnes ehangu a thyfu, ac mae Arolwg Blynyddol ScaleUp yn darparu data a thystiolaeth bwysig i helpu i sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i gynnal, cyflawni a rhagori ar eich dyheadau o ran twf.

Bob blwyddyn, mae cannoedd o fusnesau sydd wrthi’n tyfu yn cymryd rhan yn yr arolwg hwn. Mae’r canfyddiadau’n llywio ac yn llunio’r cymorth y gall y sector preifat a’r sector cyhoeddus ei gynnig i helpu eich busnes i barhau i dyfu. Hyd yn hyn, mae gwybodaeth o’r Arolwg Blynyddol wedi llywio: 

  • Scaleup Visa
  • Future Fund Breakthrough
  • diwygiadau i ddatgloi cyfalaf sefydliadol
  • Strategaethau Arloesi ac Allforio newydd
  • ehangu polisïau llywodraeth y DU megis y Cronfeydd Rhanbarthol, yn ogystal ag asiantaethau fel Innovate UK

Mae llawer mwy y mae angen ei wneud. Yn arolwg eleni, gofynnir am safbwyntiau er mwyn deall y rhwystrau presennol rhag twf eich busnes yn y dyfodol, a’r hyn y credwch a allai wneud gwahaniaeth gwirioneddol a dylanwadol.

Dylai’r arolwg gymryd tua 30-40 munud i’w lenwi.

Y dyddiad cau ar gyfer llenwi’r arolwg yw 1 Hydref 2023.

I gael rhagor o wybodaeth ac i lenwi’r arolwg, dewiswch y ddolen ganlynol: 
Survey (focusvision.com)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.