BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg: Effeithiau’r pandemig Covid-19 ar iechyd cyflogwyr a'u staff ar hyn o bryd ac yn y dyfodol

Mae'r pandemig Covid-19 wedi cael effaith sylweddol ar weithleoedd a'r gweithlu yng Nghymru a gweddill y DU. 

Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi nodi effeithiau negyddol gan gynnwys:

  • cynnydd mewn diweithdra
  • cynnydd mewn risg tlodi a'r rhai tlawd sy'n gweithio
  • cwmnïau’n cau
  • a bylchau economaidd ac iechyd gwahanol ardaloedd daearyddol yn ehangu.

Mae Cymru Iach ar Waith eisiau clywed gan ystod eang o gyflogwyr i ddeall yn well effeithiau pandemig Covid-19 ar iechyd cyflogwyr a'u staff yn awr ac yn y dyfodol ac maent wedi datblygu holiadur ar-lein ar gyfer cyflogwyr er mwyn gwneud y canlynol:

  • cynnwys anghenion iechyd gweithlu Cymru yn awr ac wrth inni symud ymlaen
  • penderfynu ar faterion allweddol i'w hystyried a sut i ymateb iddynt
  • darganfod pa gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd a nodi unrhyw fylchau o ran y ddarpariaeth

Bydd Cymru Iach ar Waith yn defnyddio'r sylwadau hyn i weithio gyda llunwyr polisi a phartneriaid eraill i fynd i'r afael â'r anghenion a nodwyd.  

Os ydych chi'n gyflogwr, helpwch i lywio'r gwaith trwy gwblhau harolwg ar-lein https://www.opinionresearch.co.uk/PHWHWW bydd yr arolwg yn fyw tan 31 Mawrth 2021.


 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.