Y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol (REF) i ogledd Cymru fydd sylfaen ar gyfer rhanbarth sy’n cydweithredu – hwn fydd y cam cyntaf ar gyfer creu model datblygu economaidd sydd â rhanbarth yn ffocws iddo.
Bydd y REF yn cael ei gynhyrchu ar y cyd i atgyfnerthu gweledigaeth gytûn ar gyfer y rhanbarth gan rannu cyfres o flaenoriaethau a chanlyniadau.
Mae'r ddogfen yn edrych i ystyried materion tebyg i:
- sut yr ydym yn datblygu sgiliau i sicrhau cyfleoedd i'n rhanbarth yn y dyfodol;
- sicrhau cyflogaeth deg a gwerth chweil ar gyfer pob rhan o'r rhanbarth;
- gwella a diogelu ein hamgylchedd;
- sicrhau cyfleoedd cynaliadwy i'r rhanbarth ac ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur;
- manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i sicrhau bod gennym y seilwaith cywir yn y lleoedd cywir er budd ein Cymunedau; a
- newid ein dull o ddatblygu economaidd o dyfu'r economi'n unig i sicrhau lles economaidd cyfartal a theg, gan roi ystyriaeth lawn i iaith, diwylliant, daearyddiaeth a chymunedau unigol y rhanbarth
Mae llawer mwy o ystyriaethau ac yr ydym yn edrych i glywed eich barn am yr uchod ac unrhyw beth arall.
Sicrhewch fod eich barn yn cael ei chlywed drwy gwblhau ein harolwg ar-lein https://www.surveymonkey.co.uk/r/HGDMGSK y dyddiad olaf i gwblhau'r arolwg yw 30 Tachwedd 2021.
Ewch i wefan REF Gogledd Cymru: https://www.refgogleddcymru.com/