BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg LawTech Cymru 2021

Mae Pwyllgor Technoleg y Gyfraith Cymdeithas y Cyfreithwyr Caerdydd a’r Cylch a Legal News Wales wedi lansio arolwg ar gyfer y sector cyfreithiol yng Nghymru, i gael gwell dealltwriaeth o sut mae cwmnïau’r gyfraith ac endidau cyfreithiol yn defnyddio technoleg, unrhyw heriau cysylltiedig i LawTech, pa broblemau yr hoffai sector y gyfraith eu goresgyn, ac os gall technoleg helpu a chreu gweledigaethau ar gyfer y dyfodol.

Dyma’r arolwg cyntaf o’i fath i ganolbwyntio ar sector y gyfraith yng Nghymru ac i geisio deall y bylchau yn narpariaeth technoleg a chyfleusterau ategol (fel cyflymder band eang) o fewn y sector, unrhyw gyfyngiadau ar hyn o bryd a sut, os o gwbl, y gall cwmnïau cyfreithiol gael gafael ar wybodaeth, cyngor a chymorth i ddatblygu.

Am ragor o wybodaeth ac i gwblhau’r arolwg, ewch i wefan Legal News.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.