BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Lles Covid-19 Cymru

Rhwng 9 Mehefin 2020 a 13 Gorffennaf, cynhaliodd Lles Cymru arolwg ar-lein a oedd yn edrych ar lefelau lles a thrallod seicolegol ym mhoblogaeth Cymru yn ystod y pandemig Covid-19.

Mae canlyniadau’r arolwg wedi’u cyhoeddi bellach, am ragor o wybodaeth ewch i wefan Lles Cymru.

Mae Lles Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe a’r 7 Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn gwahodd ymatebion i ail arolwg sydd â’r nod o ddeall sut mae’r pandemig parhaus wedi effeithio ar iechyd poblogaeth Cymru. Nid oes rhaid i chi gymryd rhan yn yr arolwg a gallwch dynnu yn ôl ar unrhyw adeg os mai dyna’ch dymuniad. Cedwir yr holl ddata y gellid adnabod cyfranogwyr drwyddo yn anhysbys.

Bydd canfyddiadau’r arolwg yn cael eu rhannu gyda’r rhai sy’n gyfrifol ar gyfer cynllunio a darparu cymorth lles ac iechyd meddwl ledled Cymru.

Am ragor o wybodaeth ac i gwblhau’r arolwg, ewch i wefan Lles Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.