BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Masnach Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi targedu sampl o 8000 o fusnesau yng Nghymru a’u gwahodd i gymryd rhan yn yr ail Arolwg Masnach Cymru.

Dywedodd Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru:

"Mae'n bwysig bod y rhai a wahoddir yn cymryd rhan; dyma'r unig arolwg sy'n canolbwyntio ar fasnach yng Nghymru, ac sy'n bwydo i mewn yn uniongyrchol i'n polisi masnach a'n sylfaen dystiolaeth cymorth busnes.

"O ganlyniad i'n Harolwg Masnach gychwynnol i Gymru; rydym wedi gallu cyfrifo gwerth masnach rhwng Cymru a gweddill y DU am y tro cyntaf. Mae'r data yma wedi ein galluogi i gynhyrchu ystadegau masnach ryngwladol fwy cyflawn ar gyfer Cymru.  Diolch i'r 1000+ o fusnesau a gymerodd ran llynedd i wneud hyn yn bosibl".

Gyda'r dirwedd economaidd yn symud yn gyflymach nag erioed o'r blaen, gwyddom fod busnesau'n wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen. Er bod hwn yn gyfnod anodd i bawb, bydd yr ail arolwg masnach hwn yn ein helpu i ddeall unrhyw newidiadau allweddol ym mhatrymau masnach busnesau yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn galendr 2019.

Bydd y canlyniadau, a ddisgwylir erbyn Gwanwyn 2021, yn galluogi Llywodraeth Cymru i adeiladu asesiad mwy cadarn o fasnach cyn-COVID a chyn diwedd y cyfnod pontio gyda’r UE yng Nghymru. Bydd y wybodaeth hon yn bwydo i mewn i'r dystiolaeth ar gyfer penderfyniadau sy'n effeithio ar Farchnad Fewnol y DU, ac yn ein helpu i gyflwyno achos cryfach dros economi Cymru pan gyfranwn tuag at drafodaethau cytundebau masnach rydd newydd dan arweiniad Llywodraeth y DU.

Os ydych wedi derbyn llythyr, cymerwch ran os gwelwch yn dda a chwblhewch yr arolwg - gallai eich cyfraniad ddylanwadu ar benderfyniadau a allai effeithio ar agweddau allweddol ar eich diwydiant ac economi Cymru gyfan.

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ganllawiau Arolwg Masnach Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.

 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.