BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Masnach Cymru – cyfle olaf!

employees discuss market research results or sales statistics

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd 8000 o fusnesau yng Nghymru i gymryd rhan yn y bumed Arolwg Masnach Cymru.

Bydd y rhan fwyaf o fusnesau a wahoddir i gymryd rhan yn cyflogi dros 20 o bobl. Mi fydd pob ymateb i Arolwg Masnach Cymru yn llywio ein gwaith i gefnogi busnes a datblygu'r economi yng Nghymru.

Dywedodd Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru:

"Mae digwyddiadau digynsail y blyneddoedd diwethaf wedi arwain at nifer o heriau economaidd. Rydym am ddeall y rhain yn well a mesur yr effeithiau ar fusnesau yng Nghymru.

"Bydd eich cyfranogiad yn ein helpu i ddeall unrhyw newidiadau allweddol ym mhatrymau masnach busnesau sy'n seiliedig ar, neu safleoedd gweithredu, yng Nghymru yn 2022. Os ydych yn derbyn llythyr, cwblhewch yr arolwg - gallai eich cyfranogiad ddylanwadu ar benderfyniadau a allai effeithio ar agweddau allweddol eich diwydiant". 

Dyma'r unig arolwg sy'n canolbwyntio ar weithgarwch masnach yng Nghymru. Mae canfyddiadau'n bwydo'n uniongyrchol i bolisi masnach Llywodraeth Cymru ac yn cryfhau'r sail dystiolaeth sydd y tu ôl i Cymorth busnes. Mae'n darparu llu o fewnwelediad a gwybodaeth bwysig am fasnach nad yw ar gael fel arall. Mae hyn yn ein helpu i ddatblygu polisïau effeithiol a rhoi ar waith y pecynnau cymorth o'r math cywir sy'n adlewyrchu anghenion busnesau yng Nghymru.

Bydd yr arolwg ar agor tan ddiwedd Ragfyr 2023 felly mae digonedd o amser i gymryd rhan o hyd. 

Rydym wedi comisiynu IFF Research i gynnal Arolwg Masnach Cymru ar ein rhan. 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am sut i lenwi'r arolwg arlein, anfonwch e-bost at ArolwgMasnachCymru@iffresearch.com neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0300 0259 000. 

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ganllawiau Arolwg Masnach Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.