Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd 8000 o fusnesau yng Nghymru i gymryd rhan yn y bedwaredd Arolwg Masnach Cymru.
Bydd y rhan fwyaf o fusnesau a wahoddir i gymryd rhan yn cyflogi dros 20 o bobl. Mi fydd ymateb pob busnes i Arolwg Masnach Cymru yn llywio gwaith i roi hwb i'n hadferiad economaidd ac adeiladu Cymru well.
Dywedodd Jonathan Price, Prif Economegydd Llywodraeth Cymru:
"Mae’r digwyddiadau digynsail y tair blynedd diwethaf wedi arwain at nifer o heriau economaidd. Rydym am ddeall y rhain yn well a mesur yr effeithiau ar fusnesau yng Nghymru.
"Bydd eich cyfranogiad yn ein helpu i ddeall unrhyw newidiadau allweddol ym mhatrymau masnach busnesau sy'n seiliedig ar, neu safleoedd gweithredu, yng Nghymru yn 2021. Os ydych yn derbyn llythyr, cwblhewch yr arolwg - gallai eich cyfranogiad ddylanwadu ar benderfyniadau a allai effeithio ar agweddau allweddol eich diwydiant".
Dyma'r unig arolwg sy'n canolbwyntio ar weithgarwch masnach yng Nghymru. Mae canfyddiadau'n bwydo'n uniongyrchol i bolisi masnach Llywodraeth Cymru ac yn cryfhau'r sail dystiolaeth sydd y tu ôl i Cymorth busnes. Mae'n darparu llu o fewnwelediad a gwybodaeth bwysig am fasnach nad yw ar gael fel arall. Mae hyn yn ein helpu i ddatblygu polisïau effeithiol a rhoi ar waith y pecynnau cymorth o'r math cywir sy'n adlewyrchu anghenion busnesau yng Nghymru.
Bydd yr arolwg ar agor tan Ragfyr 2022 felly mae digonedd o amser i gymryd rhan.
Rydym wedi comisiynu IFF Research i gynnal Arolwg Masnach Cymru ar ein rhan.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am sut i lenwi'r arolwg arlein, anfonwch e-bost at ArolwgMasnachCymru@iffresearch.com neu ffoniwch y llinell gymorth ar 0300 0259 000.
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar ganllawiau Arolwg Masnach Cymru ar wefan Llywodraeth Cymru.