Fashion, Textiles and Technology a Future Fashion Factory yn lansio arolwg ar y cyd sy’n targedu mentrau micro a bach yn y DU.
Nod yr arolwg yw darganfod y sefyllfa bresennol a'r agweddau tuag at ddyfodol cwmnïau, entrepreneuriaid a gweithwyr proffesiynol yn y DU yn y sectorau ffasiwn, tecstilau a thechnoleg yn erbyn y cefndir gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd presennol, a nodweddir gan effaith COVID-19 a Brexit, a chan yr argyfwng hinsawdd.
Ategir yr arolwg newydd hwn gan astudiaethau achos ar nifer detholedig o fusnesau, yn enwedig o ran themâu cyd-ddylunio, tryloywder y gadwyn gyflenwi, cylcholdeb a chynhyrchu ar alw. Bydd yr ymchwil yn cael ei chyhoeddi a'i gwneud yn hygyrch ar ffurf adroddiad 40 tudalen tua diwedd 2022.
Mae'r gwaith hwn yn dilyn yr arolwg cyntaf llwyddiannus a gynhaliwyd gan BFTT yn ystod 2020-21, a arweiniodd at gyhoeddi'r adroddiad Mapping the UK Fashion, Textiles and Technology Ecosystem.
I gael mwy o wybodaeth ac i lenwi'r arolwg, ewch i Qualtrics Survey | Qualtrics Experience Management