Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Economïau Lleol (CLES) i gynnal ymchwil er mwyn deall profiadau busnesau bach o ddod o hyd i leoliadau busnes.
Bydd tystiolaeth o'r ymchwil hwn yn llywio polisi'r llywodraeth yn y dyfodol, gan gynnwys sut i wella cymorth i fusnesau ddod o hyd i eiddo yng nghanol trefi a dinasoedd yng Nghymru.
Er mwyn i ni ymgymryd â’r ymchwil hwn, rydym yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg byr i ddeall profiad eich busnes.
Mae’r arolwg hwn ni ddylai gymryd mwy na 5 munud i’w gwblhau: https://www.smartsurvey.co.uk/s/cymru-
Os byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg, bydd eich enw yn mynd mewn i’r het i ennill cerdyn rhodd gwerth £200.
Dyddiad cau: Dydd Mercher 12 Mehefin 2024
Cyn i chi ddechrau, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd atodedig sy’n amlinellu sut y byddwn yn ymdrin â’ch data. Trwy gymryd rhan rydych yn derbyn y telerau hyn.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymchwil neu am yr arolwg, cysylltwch â Rebecca Askew ar rebecca.askew001@llyw.wales