Ydych chi'n gyflogwr sydd wedi recriwtio gweithwyr tramor neu ydych chi'n ceisio recriwtio o dramor?
Os felly, mae Llywodraeth Cymru eisiau clywed gennych chi!
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymchwil i benderfynu a oes gan fusnesau sy'n ceisio recriwtio o dramor y gefnogaeth angenrheidiol i wneud hynny. Neu, a yw diffyg mynediad at gymorth a chyngor ar fewnfudo yng Nghymru yn atal cyflogwyr rhag recriwtio o dramor.
Os hoffech rannu eich barn, cwblhewch yr arolwg, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cynhadledd Drethi 2022 Llywodraeth Cymru (smartsurvey.co.uk)
Bydd yr arolwg yn cau ar 3 Ebrill 2023.
Bydd canlyniadau'r arolwg yn cael eu cyhoeddi ar www.llyw.cymru erbyn mis Mehefin 2023. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr arolwg, cysylltwch â'r Tîm Polisi Mudo migrationpolicy@llyw.cymru