BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022 - Adroddiad Cymru

Employer sitting in an office

Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022 yw'r chweched mewn cyfres o arolygon cyflogwyr ar raddfa fawr ledled y DU sy'n darparu ffynhonnell gynhwysfawr o wybodaeth am y farchnad lafur ar yr heriau sgiliau sy'n wynebu cyflogwyr a lefelau a natur y buddsoddiad mewn hyfforddiant a datblygiad.

Cynhaliwyd Arolwg 2022 ar ôl pandemig COVID-19. Yn y cyfnod hwn, mae Cymru, y DU, a'r economi fyd-eang wedi wynebu heriau economaidd digynsail. Mae'r data hwn yn werthfawr o ran deall sefyllfa ddiweddar y farchnad lafur i gyflogwyr a dangos sut mae pethau wedi newid dros amser.

Fe wnaeth 4,825 o gyflogwyr yng Nghymru gymryd rhan yn Arolwg 2022 (gyda 72,000 o gyflogwyr wedi cymryd rhan yn yr arolwg ledled y DU). Cynhaliwyd y gwaith maes rhwng Mehefin 2022 a Mawrth 2023.

I gael rhagor o wybodaeth a darllenwch yr adroddiad, dewiswch y ddolen ganlynol: Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022 (adroddiad Cymru) | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.